Fel rhan o brosiect archaeolegol Tai Cochion, bydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cloddio ar lannau’r Fenai eto eleni rhwng 27ain o Fehefin a 5ed o Awst.

Daeth y safle at ein sylw trwy ddarganfyddiadau gan aelodau o’r cyhoedd. Dilynwyd hyn gan arolwg geoffiseg a ganfuwyd nodweddion a oedd yn ymestyn ar draws ardal eang. Cafwyd cyfnod o waith cloddio yn 2010 lle darganfuwyd lôn, adeilad a nodwedd ffos yn dyddio o’r cyfnod Rhufeinig. Datguddiodd y gwaith cloddio arteffactau sy’n dangos bod y safle yn cael ei anheddu o’r ganrif 1af i’r 4ydd.

Yn y flwyddyn hon, gyda nawdd Cadw, yr ydym yn gobeithio darganfod mwy o dystiolaeth am natur yr anheddiad. Nod ac amcanion y cloddiad yw archwilio dwy ardal yn agos at y Fenai,  un yn cynnwys adeilad a’r llall  nodweddion diwydiannol posib.

Fel rhan o Ŵyl Archaeoleg Prydain yng Ngorffennaf, bydd Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn cynnal diwrnod agored arbennig yn Nhai Cochion, ar ddydd Sadwrn 23ain o Orffennaf, rhwng 10am a 4pm. Croeso i bawb ddod draw a chael taith o amgylch y safle, gweld rhai o’r darganfyddiadau a gofyn cwestiynau ynglŷn â’r cloddio ac ymuno gyda’r gweithgareddau teuluol.

Y flwyddyn yma mae Tegid Rhys Williams, Archaeolegydd Cymunedol o Dan Hyfforddiant gyda nawdd y CBA, yn cadw’r dyddiadur o’r cloddiad.

Diwrnod 1 – Dydd Llun 27 Mehefin

Mae diwrnod y cloddio wedi cyrraedd o’r diwedd. Mae Dave, Cyfarwyddwr y Safle, wedi gorffen y gwaith arolygu ac wedi gosod allan dwy ffos ar sail y geoffis ar draws adeilad a nodweddion diwydiannol posib.

Diwrnod 2/3 – Dydd Mawrth/Mercher 28-29 Mehefin

Heddiw oedd fy niwrnod cyntaf ar y safle. Roedd y cloddiwr wedi cyrraedd ac wedi tynnu’r pridd uchaf i ffwrdd. Roedd o’n anodd cael y lefel cywir. Os oedd gormod o bridd yn cael ei dynnu i ffwrdd, roedd peryg gwneud difrod i’r archaeoleg, ond byddai tynnu dim digon yn golygu cloddio â llaw am wythnosau. Cloddwyd dwy ffos gan y cloddiwr, un 30x15m a’r llall 25x20m. Mae yna ffos fach wedi ei hagor ar gyfer y plant fydd yn ymweld â’r safle yn yr wythnosau nesaf.

Diwrnod 4 – Dydd Iau 30 Mehefin

Heddiw oedd diwrnod cyntaf y gwirfoddolwyr ar y safle – llawer iawn o gyflwyniadau iechyd a diogelwch a gwaith papur angen ei lenwi. Cael cychwyn cloddio yn y diwedd. Mae yna dîm grêt o wirfoddolwyr sy’n cynnwys myfyrwyr, cyn-archaeolegwyr a rhai sy’n gwbl newydd i waith cloddio (dwi’n cynnwys fy hun yn yr adran yma).

Diwrnod 5 – Dydd Gwener 1 Gorffennaf

Doeddwn i ddim ar y safle heddiw ond cefais holl hanes y dydd gan Dave. Diwrnod da o gloddio heddiw, ond fel ddoe, roedd y ddaear yn sych ac yn galed. Mae ffos 1, lle mae’r adeilad, am fod yn waith caled oherwydd nad oedd o’n bosib tynnu gormod o’r pridd uchaf i ffwrdd oherwydd fod yna gerrig yn gwthio ormod allan o’r ddaear. Mae’r gwaith ar ffos 2 yn mynd yn dda ond mae’n edrych yn fwy cymhleth na be’ oedd ar y geoffis.

Diwrnod 6 – Dydd Llun 4 Gorffennaf

Eto heddiw doeddwn i ddim ar y safle ond roedd Dave yn swnio’n eithaf hapus pan siaradais efo fo. Yn rhyfeddol, rydym wedi gorffen y glanhau cyntaf ar ffos 2, ac mae o’n barod i gael ei gofnodi – mae Dave yn gweddïo fydd hi ddim yn bwrw glaw ormod heno. Mae ffos 1 yn dod ymlaen yn dda. Yn sicr mae yna adeilad ac mae o’n fawr hefyd – tua 25m o hyd.

Diwrnod 7 – Dydd Mawrth 5 Gorffennaf

Glaw ar ddechrau’r dydd ond ddim digon i lacio’r pridd am hir. Mae olion waliau’r adeilad yn ffos 1 yn dechrau dod yn amlwg – be’ sy’n rhyfedd ydy fod pen yr adeilad yn edrych yn grwn. Cofnodwyd ffos 2 gan Dave a Jeff gan ddefnyddio cyfres o 66 o luniau digidol fertigol o’r awyr – roedd Dave ar ei draed tan hanner awr wedi hanner nos yn uno’r lluniau efo’i gilydd ar Photoshop.

Daeth yr ysgol gyntaf i ymweld â’r safle heddiw. Cafodd Anita, Iwan a minnau ddiwrnod prysur – gwnaethom ychydig o gloddio efo’r plant yn eu ffos arbennig, cawsom gynnig ar weithio groma (rhai’n fwy llwyddiannus nag eraill, heb enwi neb!!!) a chawsom gyfle i gyfathrebu â’n gilydd gan ddefnyddio fflagiau. Roedd y plant i gyd yn edrych fel eu bod wedi mwynhau.

Diwrnod 8 -Dydd Mercher 6 Gorffennaf

Roedd pawb yn gweithio yn ffos 1 heddiw tra bod Dave yn gosod rhifau i’r nodweddion yn ffos 2. Mae waliau’r adeilad yn ffos 1 yn dod yn amlycach – sylfeini cerrig efo rhan uchaf yr adeilad wedi’i wneud o bren a ‘wattle and daub’.

Daeth yr ail ysgol i’r safle heddiw ond yn anffodus roedd rhaid iddynt adael amser cinio. Serch hyn, cawsom amser i gloddio ychydig, sgwrsio am ddarganfyddiadau, a chanu pen-blwydd hapus i Iwan!!

Dydd 9 – Dydd Iau 7 Gorffennaf

Dechreuodd y diwrnod efo glaw a oedd yn lawer o help i ni oherwydd roedd o’n llacio’r ddaear ac yn gwneud cloddio ychydig yn haws. Stopiodd y glaw tua 10am a daeth yr haul allan am weddill y diwrnod. Roedd yna 16 o wirfoddolwyr ar y safle heddiw ac roedd pawb yn gweithio ar ffos 1. Daeth y gwaith yn ei flaen yn dda iawn heddiw. Mae’r wal orllewinol yn amlwg i’w gweld ’rŵan. Mae’r wal ddwyreiniol yn parhau i fod yn gymhleth ond mae Dave yn meddwl posib mai feranda ydy o. Mae ffos 2 yn gliriach ar ôl y glaw – mae’r cynllunio i gyd wedi’w gwblhau.

Daeth myfyrwyr chweched dosbarth o ysgol leol atom heddiw. Cawsom gyfle i gloddio ychydig, gwneud ychydig o arbrofion i weld y gwyddoniaeth y tu ôl i geoffiseg, a rhywbeth sy’n dod yn uchafbwynt y diwrnod – i Iwan a fi o leiaf – cyfathrebu gan ddefnyddio fflagiau.

Diwrnod 10 – Dydd Gwener 8 Gorffennaf

Daeth Ifan y   Glaw heibio’r safle heddiw gan stopio’r gwirfoddolwyr rhag gallu cloddi ryw lawer. Mi roedd yna ambell i gyfnod lle nad oedd hi’n bwrw, ond ychydig yn araf oedd y cynnydd yn y gwaith. Aeth y gwirfoddolwyr adref am 4pm oherwydd bod y glaw yn rhy drwm i ni allu cloddio yn iawn. Penwythnos amdani felly!

Daeth disgyblion blwyddyn 8 o ysgol uwchradd leol atom heddiw. Yn ffodus, ni wnaeth y glaw effeithio llawer ar y gweithgareddau gôn fod y rhan fwyaf ohonynt yn ein pabell bwrpasol.

Diwrnod 11 – Dydd Llun 11 Gorffennaf

Diwrnod bendigedig heddiw ac roedd hi’n boeth iawn ar y safle. Cafodd y gwirfoddolwyr hwyl dda iawn yn y ffosydd heddiw. Yn ffos 1 tynnwyd yr haen olaf o’r pridd uchaf gan lanhau’r holl bridd oddi ar dop yr adeilad. O ganlyniad, daeth waliau, lloriau a phyrth i’r amlwg. Hefyd rydym wedi darganfod llawer o ‘wattle and daub’ wedi ei losgi. Yn ffos 2 cychwynnwyd ar y gwaith o ddiffinio dwy neu dair nodwedd gan lanhau’r ardal mewn golwg. Nododd Dave ei fod am ddechrau tyrchio’r nodweddion wedi i’r glanhau cael ei gwblhau y prynhawn ’ma.

Cafwyd ysgol gynradd arall i’r safle heddiw. Roedd yn ymddangos fod y plant a’r athrawon wedi mwynhau bod yn archaeolegwyr am y dydd. Er mor braf oedd hi heddiw, dysgais wers am beidio gwisgo melyn ar ddiwrnod mor boeth – roedd y pryfaid yn hoff iawn o ’nghrys-T.

Diwrnod 12– Dydd Mawrth 12 Gorffennaf

Diwrnod braf arall ar y safle heddiw, ac mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio’n galed iawn. Yn ffos 1 mae’r gwirfoddolwyr wedi cloddio ar hyd y ffos gyfan i’r haen lle mae’r adeilad wedi dymchwel. Datgelodd ymchwiliadau pellach ei bod yn ymddangos fod yr adeilad wedi ei losgi. Yn ffos 2, profodd weddill y tîm bedair nodwedd a darganfod eu bod yn Rhufeinig.

Daeth dwy ysgol gynradd atom heddiw. Hyd yn oed yn y tywydd berwedig, mi weithiodd y plant i gyd yn dda iawn yn y gweithgareddau a drefnwyd iddyn’ nhw.

Diwrnod 13 –Dydd  Mercher 13 Gorffennaf

Dydy’r tywydd braf ddim eisiau gadael gogledd-orllewin Cymru. Heulwen lachar gynnes drwy’r dydd. Gwych i Anita, Iwan a fi, a oedd â dwy ysgol gynradd arall yn ymweld â ni heddiw. Roeddem ni i gyd wrth ein boddau yn cloddi, chwarae efo’r groma, ac arwyddo gyda fflagiau.

Ar ôl i’r plant adael, mi ges i wybod gan Dave be’ oedd yn digwydd yn y ffosydd. Yn ffos 1 dydy llawr yr adeilad byth wedi’i ddarganfod – mae’n ymddangos ei fod yn ddyfn iawn a than lefel y wal. Yn ffos 2, mae’n debyg mai ffos (ditch) ddofn ydy un o’r nodweddion. Mae nodwedd arall yn grwn ac wedi’i adeiladu’n dda o gerrig – popty, efallai.

Hefyd, mae Dave wedi bod yn hyfforddi rhai gwirfoddolwyr. Dangosodd yr hyfforddiant ar gyfer geoffis ‘Hi- res’ adeilad petryal.

Diwrnod 14 – Dydd Iau 14 Gorffennaf

Diwrnod braf a chynnes arall ar y safle heddiw. Gwaith da wedi ei wneud ar y ddwy ffos gan y gwirfoddolwyr. Daeth yr ysgol olaf draw heddiw, disgyblion ac athrawon wedi mwynhau.

Diwrnod 15 – Dydd Gwener 15 Gorffennaf

Doeddwn i ddim ar y safle heddiw ond yn ôl Dave daeth y glaw i lawr reit drwm ambell waith yn ystod y dydd. Serch hyn, llwyddodd y gwirfoddolwyr i wneud ychydig o waith yn y ffosydd. Rhyfedd gweld glaw ar y safle gan ystyried y diwrnodau braf a chynnes rydym wedi’u gweld yn y dyddiad diwethaf.

Diwrnod 16 – Dydd Llun 18 Gorffennaf

Doeddwn i ddim ar y safle heddiw chwaith ond dwi wedi cael sgwrs sydyn efo Dave i weld be’ sy’n digwydd ar y safle. Yn ffos 1 mae’r gwirfoddolwyr wedi bod yn gweithio’n galed ac erbyn hyn mae llawr yr adeilad i’w weld o’r diwedd.

Yn ffos 2 mae’r nodwedd gron y soniais amdani yr wythnos ddiwethaf wedi cael ei chloddio. Mae Dave yn meddwl mai popty neu sychwr grawn sydd yno, o bosib – mae’r nodwedd yn ddyfn, wedi cael ei hadeiladu’n dda, ac wedi ei leinio â cherrig. Hefyd, mae’r gwaith yn parhau ar y nodweddion eraill.

Diwrnod 17/18 – Dydd Maw/Mer 19-20 Gorffennaf

Doeddwn i ddim ar y safle ddydd Mawrth, ond roeddwn yno ar y dydd Mercher. Nododd Dave eu bod nhw wedi darganfod mynediad crand, llydan, i’r adeilad yn ffos 1. Mae’n dechrau dod yn amlwg rŵan fod yr adeilad yn dŷ o statws uchel sydd efallai â feranda ar hyd ei flaen.

Yn ffos 2 roedd y gwaith o gloddio a chofnodi yn parhau. Ar ddydd Mercher daeth cangen Bangor o Archaeolegwyr Ifanc atom yn y bore, a chafodd pob un cyfle i wneud chydig o gloddio.

Diwrnod 19/20 – Dydd Iau/ Gwen 21-22 Gorffennaf

Eto, doeddwn i ddim ar y safle ddydd Iau oherwydd roeddwn yn paratoi ar gyfer diwrnod agored Gŵyl Archaeoleg Prydain yn Nhai Cochion ar ddydd Sadwrn. Daeth Iwan a finna’ i’r safle ddydd Gwener, ond er mwyn gwneud paratoadau munud olaf ar gyfer y diwrnod agored. Cefais sgwrs sydyn efo Dave tra’r oeddwn yno. Yn ffos 2 mae yna fwy o gloddio wedi digwydd ar y popty ac mae’n debyg mai sychwr grawn sydd yno. Darganfuwyd crochenwaith sy’n cadarnhau fod y nodwedd yn un Rufeinig. Mae’r gwaith yn parhau yn ffos 1.

Diwrnod 21 – Dydd Sadwrn 23 Gorffennaf

Diwrnod Agored Cloddiad Tai Cochion! Mae yna wythnosau o drefnu a pharatoi ar gyfer y digwyddiad wedi ei wneud gan yr holl dîm ac ar ddydd Sadwrn cyrhaeddodd y diwrnod agored – a diwrnod da oedd o hefyd!! Daeth dros 500 o ymwelwyr atom ar ddiwrnod braf a chynnes. Ac roedd yn lawer yn digwydd. Roedd Dave ac Iwan yn brysur iawn yn gwneud teithau o’r safle, ac roedd yna lawer i blant ei wneud hefyd, fel gwisgo fel Rhufeinwyr, ailosod darnau o grochenwaith, a chael eu hwynebau wedi’u paentio gan Jess. Roedd ambell i wirfoddolwr wedi rhoi ei ddydd Sadwrn er mwyn gwethio ar y safle, ac yn ystod y dydd darganfuwyd clorian efydd. Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i bawb a fu’n ymwneud â’r diwrnod, yn enwedig y Woodcraft Folk am redeg stondin te a chacennau, Pat ac Ian o Oriel Ynys Môn am ymuno efo ni ar y diwrnod, i’r gwirfoddolwyr a ddaeth i’r safle, staff GAT am eu gwaith caled yn yr wythnosau diwethaf ac ar y dydd, ac i bawb a wnaeth ymweld â’r safle.

Diwrnod 22/23 – Dydd Llun/Mawrth 25-26 Gorffennaf

Mae’r gwirfoddolwyr yn ôl ar y safle ar ôl toriad haeddiannol dros y penwythnos.  Yn ffos 1 mae’r gwirfoddolwyr (gan gynnwys fi) wedi cychwyn ar y gwaith o symud y balciau o ganol y ffos, felly llawer o waith caled a thunelli o bridd wedi eu symud, a chwarae teg, gwaith da iawn gennym mewn tymheredd cynnes iawn.  Yn yr ail ffos mae hi wedi bod yn anodd iawn ceisio darganfod y simnai ‘flue’ ar gyfer y pobty. Oherwydd fod y ddaear wedi bod mor sych, mae hi wedi bod yn anodd ei weld yn y pridd. Felly, er mwyn ei ddarganfod cafodd Dave a Brian (y gwirfoddolwr sy’n cloddio y pobty) y syniad o lychu’r nodwedd ac yna rhoi tarpaulin drosto. Erbyn y bore roedd y nodwedd i’w weld yn glir. Da iawn hogia.

Diwrnod 24 – Dydd Mercher 27 Gorffennaf

Diwrnod poeth iawn ar safle eto heddiw. Dechreuodd y gwaith o gloddio’r  simnai (flue) yn ffos 2 heddiw. Hefyd mae Iwan wedi cychwyn cloddio ardal go helaeth, sy’n edrych yn eithaf cymhleth gan fod yna nifer o wahanol nodweddion yn torri i mewn i’w gilydd. Yn ogystal mae gwaith recordio’r nodweddion eraill yn parhau. Yn ffos 1 dechreuodd  y gwaith o lanhau’r ffos ar ôl tynnu pridd y ddau ddiwrnod diwethaf. Ar ôl i hyn cofnododd Dave y ffos gan dynnu lluniau.

Diwrnod 25 – Dydd Iau 28 Gorffennaf

Doeddwn i ddim ar y safle heddiw, ond cefais gyfle sydyn i siarad efo Iwan. Roedd yna ychydig o law yno heddiw a oedd yn creu amgylchiadau perffaith ar gyfer cloddio. Parhaodd y gwaith yn y ddwy ffos.

Diwrnod 26 – Dydd Gwener 29 Gorffennaf

Diwrnod bendigedig ar y safle heddiw – cynnes a braf. Mae Iwan a rhai o’r gwirfoddolwyr yn parhau i  weithio tuag at ddatrys y nodweddion cymhleth yn ffos 2. Yn ogystal mae’r popty yn dechrau codi cwestiynau, bydd rhaid edrych arno’n agos yr wythnos nesaf i geisio datrys beth yn union sy’n digwydd. Yn ffos 1 mae’r gwaith o symud tunelli o cerrig a phridd er mwyn darganfod llawr yr adeliad wedi cychwyn yn iawn, ac mae yna nifer o ddarganfyddiadau diddorol wedi bod.

Diwrnod 27/28 – Dydd Llun/Mawrth 1-2 Awst

Wel, dyma’r wythnos olaf yn Nhai Cochion y flwyddyn yma, ond mae yna ddigon i’w wneud cyn bod y cloddiwr yn dod i lenwi’r ffosydd. Yn ffos 1 mae’r gwaith i gyrraedd llawr yr adeilad yn mynd yn dda ac mae rhan fwyaf o’r gwirfoddolwyr yn gweithio yma rŵan er mwyn gorffen popeth cyn dydd Gwener. Codwyd cwestiynau’r wythnos diwethaf am beth yn union oedd y nodwedd sy’n cael ei ddisgrifio fel popty. Cafodd Dave ac Iwan sgwrs go helaeth efo Brian sydd wedi body n cloddio’r nodwedd ac maen nhw wedi dod i’r canlyniad (am y tro beth bynnag) mai odyn galch sydd yno.

Diwrnod 29/30 – Dydd Mercher/Iau 3-4 Awst

Mae pawb fell lad nadroedd yn y ffosydd rŵan yn gorffen cloddio a chofnodi’r holl nodweddion cyn i amser dod i ben. Dim ond llond llaw o wirfoddolwyr  sydd yn yr ail ffos erbyn hyn gan fod y rhai sydd wed gorffen cofnodi’r nodweddion yno wedi symud i ffos 1. Mae ffos 2 yn edrych yn hynod o gymhleth gyda ffosydd a phydewau yn torri mewn i’w gilydd ym mhobman.- Bydd rhaid aros i weld beth yw dehongliad y ffos yma.

Diwrnod 31 – Dydd Gwener 5 Awst

Heddiw yw’r diwrnod olaf o gloddi yn Nhai Cochion eleni ac yn lwcus i ni mae’n ddiwrnod braf unwaith eto. Mae’r holl nodweddion yn ffos 2 wedi cael eu cloddio a chofnodi felly mae pawb yn gweithio yn ffos1. Yn ôl George (goruchwyliwr y ffos) mae o’n credu bod yna ddau gyfnod penodol i’r adeilad. Yn y cyfnod cyntaf credai mai adeilad ‘coridor’, adeilad Rhufeinig o statws uchel, yn ogystal, o amgylch y prif strwythur mae yna dystiolaeth o bortico neu feranda. Yna llosgwyd yr adeilad i’r llawr  cyn cael ei ail ddefnyddio fel gweithdy neu feudy.

Wel, dyma’r ddiwedd ar y cloddiad yn swyddogol! Gwnaeth Gareth, un o’r gwirfoddolwyr a ffotograffydd brwd, tynnu ambell i lun grŵp o staff GAT a gwirfoddolwyr. Mae Dave, George ac ambell un o’r gwirfoddolwyr yn dychwelyd yn ôl i’r safle’r wythnos nesaf i orffen ychydig o fanion bethau ac i helpu efo’r ôl-lenwad. Mae hi di bod yn gloddiad gwych.

Dydd Llun / Iau – 8 – 11 Awst

Yn lwcus iawn, cawsom ganiatâd i barhau efo’r cloddiad am wythnos ychwanegol (er ei bod hi’n hynod o wlyb!). O ganlyniad cawsom amser i archwilio lefelau cynharaf yr adeilad. Darganfuwyd hefyd odyn a oedd yn gweithio metal, nifer o nodweddion yn ymwneud â gwaith crefft, rhan o’r llawr caregan gwreiddiol a haidd Rhufeinig wedi llosgi.

Hoffa Dave, George a staff G.A.T. ddiolch i’r holl wirfoddolwyr a fu’n gweithio ar y cloddiad. Mae’r cloddiad wedi bod yn un hynod o lwyddiannus ac ni fyddai wedi bod yn bosib heb y gwaith caled, sgìl a brwdfrydedd gan dîm cloddio Tai Cochion. Diolch yn fawr hefyd i Jack Roberts am roi caniatâd i ni gloddio yn Nhai Cochion.

Mae’r ffosydd erbyn hyn wedi cael eu hail-lenwi. Yr ydym yn cychwyn rŵan ar y gwaith ôl-gloddio. Mae gennym dros 1500 o ddarganfyddiadau i’w harchwilio (y cyfan wedi eu golchi a chatalogio gan Sara Richards – diolch yn fawr!) ynghyd a llawer o gynlluniau, lluniau a gwaith papur. Bydd yna sawl mis o waith cyn bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno.

Cloddwyr Tai Cochion 2011

1 Response to “Dyddiadur Cloddiad Tai Cochion 2011”


  1. 1 Tegid Rhys Williams July 28, 2011 at 11:14 am

    Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddiolch i bawb a fu’n ymwneud â’r diwrnod, yn enwedig y Woodcraft Folk am redeg stondin te a chacennau, Pat ac Ian o Oriel Ynys Môn am ymuno efo ni ar y diwrnod, i’r gwirfoddolwyr a ddaeth i’r safle, staff GAT am eu gwaith caled yn yr wythnosau diwethaf ac ar y dydd, ac i bawb a wnaeth ymweld â’r safle. Diolch yn fawr iawn i bawb


Leave a reply to Tegid Rhys Williams Cancel reply